Prinder Ynni Cenedlaethol

Oherwydd prinder ynni cenedlaethol, efallai y byddwch yn cael toriad pŵer am tua thair awr ar y tro. Defnyddiwch ein hofferyn cod post i ddarganfod pryd y byddwch heb bŵer.

Pam fod hyn yn digwydd?

Nid oes digon o bŵer yn cael ei gynhyrchu i fodloni'r galw gan gartrefi a busnesau ledled y wlad. National Energy System Operator yw'r cwmni sy'n gyfrifol am weithredu'r system drydan. Mae'r cwmni wedi rhoi rota toriadau pŵer ar waith er mwyn eich helpu i gynllunio ymlaen llaw.

Mae'n bosibl y gallech fod heb bŵer am tua thair awr ar y tro. Drwy ddefnyddio rota toriadau pŵer, bydd gan bawb bŵer am y rhan fwyaf o'r diwrnod.

Bydd rheoli'r prinder ynni cenedlaethol fel hyn yn atal toriad pŵer mwy drwy gynnal sicrwydd y grid pŵer.

Pryd fydda i'n cael toriad trydan?

Teipiwch eich cod post yn y blwch a chliciwch neu dapiwch 'Darganfod'.

Er enghraifft: SW1A 1AA

Ddim yn siŵr beth yw eich cod post? Ewch i chwiliwr cod post Royal Mail.